P-05-874 - Gwahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lydia Jackson, ar ôl casglu cyfanswm o 125 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

​Rydym yn galw ar Cynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.

 

Fel y nodir gan Lywodraeth Cymru: "Gwaith Trafnidiaeth Cymru yw gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel y mae pobl Cymru’n ymfalchïo ynddo."

 

Credwn y byddai gwahardd gwerthu plastig untro, sy’n niweidio ein hamgylchedd naturiol, yn gam sylweddol o ran cyflawni’r nod hwn a dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol tecach a diogelach i ddinasyddion Cymru.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Canol Caerdydd

·         Canol De Cymru